Sefydlwyd Canolfan Morlan gan Gapel y Morfa yn 2005 gyda’r bwriad o hybu bywyd cymunedol – yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol, yn lleol a thu hwnt. Y mae’n anelu at fod yn bont rhwng yr eglwys a’r gymdeithas o’i chwmpas ac mae wedi datblygu’n adnodd pwysig yn yr ardal.
Ond mae Morlan yn llawer mwy nag adeilad …
… mae’n fan cyfarfod – i greu a thrafod, i wrando a dysgu, i ysgogi a chalonogi, i gyd-ddeall a chlosio, i rannu a chyfrannu … tir canol rhwng yr eglwys a phawb sy’n byw yn ein cymdeithas amlddiwylliannol.
Gellir llogi ystafelloedd Morlan – neuadd fawr, dwy ystafell bwyllgor a bar coffi – ar gyfer pob math o weithgareddau.
Mae Morlan ei hun hefyd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn a dyma sy’n bennaf gyfrifol am gyflawni gweledigaeth y ganolfan.
Mae’n ganolfan brysur, gyda phob math o weithgarwch yn digwydd yma, gan gynnwys anerchiadau a thrafodaethau, cyfarfodydd defosiynol, sesiynau ymarfer corff, dosbarthiadau Cymraeg, arddangosfeydd celf, dramâu, cyngherddau a digwyddiadau cymdeithasol.
O ran gweinyddiaeth ac ethos, canolfan Gymraeg ydyw ond mae’n gwasanaethu cymuned ddwyieithog; mae hefyd yn ganolfan Fasnach Deg ymroddedig.