22 Chwefror-14 Ebrill 2017
EnglUniau yw teitl prosiect diweddaraf Gareth Owen ac mae’n cyd-redeg â chyhoeddi ei lyfr Rhyw LUN o Hunangofiant (cyhoeddir gan Gwasg Carreg Gwalch).
Mae llawer o’i ddelweddau yn y gorffennol wedi eu symbylu gan farddoniaeth pobl eraill ond, am ei fod yn mwynhau gweithio englynion, dechreuodd gyfuno delweddau â’i englynion. Gwnaeth hyn yn gyntaf yn ei brosiect blaenorol Llanuwchllyn, ac mae wedi datblygu’r agwedd hon ymhellach yn y prosiect hwn.
Rydym wedi hen arfer â beirdd yn ymateb i ddelweddau ac artistiaid yn ymateb i farddoniaeth, ond peth eithaf prin yw dod ar draws delweddau a barddoniaeth gan yr un person.
Mae llawer o englynion Gareth Owen yn weledol o ran eu natur ac yn addas i’w cyfuno â delweddau. Mae erioed wedi gallu uniaethu ei ddull o weithio gyda beirdd am fod barddoniaeth, yn ddieithriad bron, yn mynegi cysyniad ac yn cynnwys symbolau neu drosiadau – ffactorau nad ydynt bob amser yn bresennol mewn celf weledol.
Yn ogystal, gan y gymdeithas ddiwylliannol Gymreig (y ‘Pethe’) y caiff Gareth Owen yr ymateb gorau i’w waith, ac roedd yn ymwybodol iawn o’r gynulleidfa hon wrth fyfyrio ar y prosiect EnglUniau. Er ei awydd i geisio ymwthio ffiniau, mae’n wyliadwrus nad yw’n mynd i eithafion rhag colli cyswllt â’r gynulleidfa hon.
Penderfynodd barhau â’r arddull amhersonol gyda chymorth cyfrifiadur ond drwy gyflwyno elfen tri-dimensiwn newydd lle mae dyfnder argraffyddol dau-ddimensiwn yn cyd-chwarae â dyfnder ffisegol go iawn. Mae’n briodol hefyd, gan mai cyfres o englynion ar gefndir gweledol sydd yma, mai collage papur yw’r cyfrwng. Arweiniodd hyn at fath EnglUniau fel teitl i’r prosiect.
Mae’r broses o greu ur EnglUniau yn amrywio. Weithiau daw’r englyn yn gyntaf, dro arall y ddelwedd. Ceir catergorïau gwahanol hefyd megis englynion coffa, gwleidyddol, crefyddol, celfyddydol a chysyniadaol.