Kindertransport

Events > 2018 > Ebrill > Kindertransport

About this event:

Created by Rheolwr Morlan

7.30, nos Wener i nos Sul, 27, 28 a 29 Ebrill gyda sioe prynhawn ar y dydd Sadwrn am 2.30

Cyflwyniad Theatr Louche o ddrama bwerus Diane Samuels sy’n ymdrin â bywyd un o blant y Kindertransport.

Ar ôl cael ei hanfon gan ei rhieni o’r Almaen, mae Eva – sy’n 9 oed – yn dod i Fanceinion. Pan nad yw ei rhieni yn llwyddo i ddianc, mae’r ferch yn newid ei henw ac yn dechrau ar y broses o gwadu ei gwreiddiau. Blynyddoedd yn ddiweddarach, mae ei merch yn darganfod hen lythyron yn yr atig a dyma pryd mae’n rhaid i Eva wynebu’r gwir am ei gorffennol.

Mae’r ddrama hefyd yn ymdrin â phoen ac angerdd y berthynas rhwng mam a merch.

Tocynnau: £9.50/£8.00 ar gael o: www.louchetheatre.com

Gadael Ymateb