A Christmas Carol – The Family Musical

Events > 1970 > Medi > A Christmas Carol – The Family Musical

About this event:

Created by Rheolwr Morlan

Morlan, Aberystwyth

Theatr Louche yn cyflwyno fersiwn gerddorol o nofel glasurol Charles Dickens A Christmas Carol. Mae’r stori bellach yn gymaint ran o’r Nadolig â chelyn ac uchelwydd ac yn parhau i ddenu a difyrru cynulleidfaoedd newydd gyda’i neges o garedigrwydd ac ewyllys da.

Wrth i’r prif gymeriad Ebenezer Scrooge deithio trwy Nadoligau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, mae’n cwrdd â chyfres o ysbrydion ac, yn y pendraw, yn cael ei drawsnewid o gybydd styfnig, balch a chalon galed i berson hael, caredig a gofalgar.

Yn llawn caneuon arbennig gan Leslie Bricusse ynghyd â dehongliadau hyfryd o garolau poblogaidd, pa ffordd well o gychwyn ar ddathliadau’r Nadolig.

Bydd cyfle i weld A Christmas Carol – The Family Musical yn Morlan am 7.30 bob nos o nos Wener i nos Sul, 24-26 Tachwedd gyda pherfformiadau prynhawn ar y Sadwrn a’r Sul. Manylion pellach ac i archebu tocynnau: www.louchetheatre.com.

Gadael Ymateb