Arddangosfa Goginio

2.30, pnawn Mercher, 13 Medi

Digwyddiad wedi’i drefnu gan HAHAV. Bydd Gareth Richards y cogydd adnabyddus o Lambed yn arddangos ei gampau coginio a gosod blodau ar y thema “Hyfrydwch y Cynhaeaf”. Tocynnau: £10 (ar werth ganol mis Awst o Parhau darllen

Sesiynau Rhoi Gwaed

18-20 Medi

Dydd Llun: 2.00-7.00

Dydd Mawrth: 10.00-1.30 & 3.00-7.00

Dydd Mercher: 10.00-12.30 & 2.00-4.20

Dan ofal Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Galar a Fi

Galar a Fi

7.00, nos Fercher, 27 Medi

Noson yng nghwmni rhai o gyfranwyr y gyfrol hon – Esyllt Maelor, Sara Maredudd Jones, Nia Gwyndaf, Manon Steffan Ros, Sharon Marie Jones, Mair Tomos Ifans, Gareth Roberts a Dafydd Pritchard. Profiadau ingol o fyw Parhau darllen

Grwp Cyfeillgarwch Aberystwyth

11.00-1.00, dydd Gwener, 6 Hydref

Cyfarfod misol diweddara’r grwp hwn. Heddiw: Enfys James yn trafod Dementia Friends and Dementia Friendly Communities. Croeso i bawb.

Stomp Llyfrau

Stomp Llyfrau

7.30, nos Wener, 13 Hydref

Noson i ddewis Llyfr y Flwyddyn! Bydd y naw sy’n cyfrannu yn ceisio argyhoeddi’r hynulleidfa i bleidleisio dros ei ddewis ef/hi o Lyfr y Flwyddyn yn un o’r tri chategori – ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth. Mynediad: £3.