Gorsafoedd y Groes

Dros misoedd Medi a Hydref 2017, roedd Morlan yn falch o groesawu arddangosfa gelf gan Nigel Robert Pugh i’r oriel. Casgliad o ddarnau yn seiliedig ar Orsafoedd y Groes ydoedd, sef cyfres o luniau sy’n dangos gwahanol olygfeydd ar ddiwrnod croeshoelio Iesu.

Mae gan Gorsafoedd y Groes draddodiad ysbrydol hir sy’n deillio o bererindodau i Jerusalem a’r awydd i ail-greu’r Via Dolorosa (Ffordd y Dioddefaint), sef stryd yn yr hen Jerusalem y mae sawl un yn credu sy’n dilyn y llwybr a gerddodd Iesu ar y ffordd i’r groes. Mae’r Gorsafoedd yn galluogi’r rheiny nad ydynt yn gallu cerdded llwybr y Dioddefaint yn y cnawd i ddilyn dehongliadau o’r siwrnai trwy gelf mewn pererindod ysbrydol.

Ceir 14 o luniau fel arfer wedi eu gosod mewn trefn penodol, ac mae pobl yn symud o un i un – mewn grwpiau neu fel unigolion – gan aros wrth bob Gorsaf i fyfyrio a gweddïo. Datblygodd yn ddefosiwn poblogaidd o fewn sawl enwad Cristnogol, gan gynnwys yr eglwys Anglicanaidd, Catholig, Lutheraidd, Methodistaidd a’r Uniongred Dwyreiniol – yn arbennig felly yn ystod cyfnod y Grawys ac ar Ddydd Gwener y Groglith.

Mae arddull, ffurf a lleoliad y Gorsafoedd yn amrywio llawer a dehongliad arbennig Nigel Pugh sydd i’w gweld yn yr arddangosfa drawiadol hon yn Morlan. Mae’r daith yn cychwyn yng Ngardd Gethsemane ac yn gorffen gyda chladdedigaeth Crist.

Mewn datganiad, dywedodd yr arlunydd: “mae dyfnhâd yn fy ffydd Gristnogol wedi arwain ataf yn archwilio’r berthynas rhwng ffydd a chelf, ac wedi arwain at archwiliad o eiconograffiaeth grefyddol a lle’r ysbrydol o fewn arferion celf gyfoes”.

Ychwanegodd: “Ymddengys bod paentiadau ‘crefyddol’ yn hynod hen ffasiwn yn y byd ôl-fodernaidd, ôl-Gristnogol hwn ond mae’r neges o ddewrder, gobaith a chariad sydd i’w gweld yn y Dioddefaint a’r Croesholio yn fwy perthnasol nag erioed.”

Graddiodd Nigel Pugh o Goleg Celf Caerdydd yn 1978 ac fe weithiodd fel Darlunydd a Chynllunydd Diwydiannol a Phensaernïol nes yr 1990au cynnar pan symudodd i orllewin Cymru i weithio fel arlunydd llawn amser.

Y mae wedi arddangos ei waith mewn nifer o sioeau unigol ac fel rhan o grwpiau gwahanol – gyda Chymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru, Grŵp Artistiaid Teifi a Grŵp Celf y Goose (y mae’n un o sefydlwyr y grŵp hwn) – ac mae ganddo waith mewn casgliadau preifat ar draws y byd.

Mae’n artist amryddawn sy’n gweithio mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys paentiadau olew, dyfrlliw, monoprintiadau a darluniadau, comisiynau darluniadol a phortreadau, cerflunwaith a gwaith ffotograffig.

Yn ogystal â chyfres Gorsafoedd y Groes, y mae hefyd wedi cwblhau cyfres o ddarluniau yn seiliedig ar Amdo Turin, ac mae’n gweithio ar hyn o bryd ar gyfres o baentiadau mewn dyfrlliw yn seiliedig ar y nawfed Gorsaf – Gwragedd Jerusalem.

Fel canolfan ffydd a diwylliant rydym bob amser yn edrych am ffyrdd o godi ymwybyddiaeth ac annog trafodaeth ar bob math o faterion yn ymwneud â ffydd, hawliau dynol, heddwch, ac ati. Roedd yr arddangosfa yn ffitio i’r rhaglen i’r dim felly. P’un ai eich bod chi’n ystyried yr arddangosfa o safbwynt celfyddydol, ysbrydol neu grefyddol – neu gyfuniad o’r tri – nid oedd yn siomi.

Ceir gwybodaeth bellach am yr artist ar ei wefan: nrpugh.co.uk

 

Gadael Ymateb