Arlwyo

Gallwn ddarparu te a choffi ar gyfer eich digwyddiad; mae Morlan yn gweithredu polisi Masnach Deg, felly dim ond te/coffi Masnach Deg a weinir gennym. Gallwch hefyd logi ein cyfleusterau cegin i ddarparu eich paneidiau eich hun.

Os ydych am gynnig bwyd yn ystod eich digwyddiad, yr ydym wedi sefydlu cytundeb arlwyo gyda Treehouse – siop a thŷ bwyta organig yn Aberystwyth. Mae’r holl gynhwysion a ddefnyddir gan Treehouse:

  • wedi’u cynhyrchu’n organig, os ydynt ar gael felly
  • yn gynnyrch lleol a thymhorol, pryd bynnag y mae hynny’n bosibl
  • yn Fasnach Deg pan fo hynny’n berthnasol.

Holwch am fanylion pellach.