Neuadd
Neuadd amlbwrpas. Addas ar gyfer cyngherddau, dramâu, ffeiriau o bob math, dosbarthiadau dawns a chadw’n heini, pwyllgorau mawr, darlithoedd, cyfarfodydd cyhoeddus, partïon priodas, a mwy!
Gellir defnyddio cadeiriau a byrddau i addasu’r ystafell yn unol ag anghenion y digwyddiad ac, os oes angen, mae modd defnyddio llenni i greu gofod llai, mwy agos atoch.
Maint: tua 10.9m x 16.5m
Capasiti: tua 150 (trefniant theatr)
tua 100 (trefniant cabaret)
Adnoddau: llwyfan symudol y gellir ei haddasu o ran siâp, uchder a maint, system PA, dolen anwythiad, goleuadau llwyfan, piano ac ardal ‘cefn llwyfan’ neu ‘ystafell werdd’ (gyda thoiled).
Yr Ystafell Werdd
Ystafell llawr pren. Addas ar gyfer pwyllgorau, hyfforddiant, anerchiadau bach, dosbarthiadau celf.
Maint: tua 4.5m x 5m
Capasiti: 16 (trefniant pwyllgor)
12 (siâp U)
24 (trefniant theatr)
Yr Ystafell Dawel
Ystafell gyfforddus. Addas ar gyfer cylchoedd trafod, grwpiau addoli bach, sesiynau ymdawelu, pwyllgorau bach.
Maint: tua 3.5m x 4m
Capasiti: 10 (trefniant pwyllgor)
18 (mewn rhesi neu gylch)
Bar Coffi
Gofod cyfforddus gyda lle i ryw 16 eistedd (ond mae hefyd lle i eistedd yn yr Oriel gyfagos). Addas iawn ar gyfer boreau coffi neu achlysuron tebyg, ond gellir ei ddefnyddio hefyd fel man cyfarfod anffurfiol. Adnoddau arlwyo syml ar gael.