Ddiwedd Tachwedd yn Morlan, bydd Theatr Louche, cwmni theatr o Aberystwyth, yn cyflwyno fersiwn gerddorol o nofel glasurol Charles Dickens A Christmas Carol.
Ym mis Hydref 1843, yr oedd Charles Dickens mewn dyled gyda’i gyhoeddwyr yn pwyso arno i gynhyrchu nofel arall. Dechreuodd felly ysgrifennu stori Nadoligaidd mewn ymgais i gynyddu incwm y teulu. Mae’r llyfr hwnnw – A Christmas Carol – bellach yn gymaint ran o’r Nadolig â chelyn ac uchelwydd ac yn parhau i ddenu a difyrru cynulleidfaoedd newydd, a’r neges o garedigrwydd ac ewyllys da yr un mor berthnasol ag erioed.
Wrth i’r prif gymeriad Ebenezer Scrooge deithio trwy Nadoligau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, mae’n cwrdd â chyfres o ysbrydion ac, yn y pendraw, yn cael ei drawsnewid o gybydd styfnig, balch a chalon galed i berson hael, caredig a gofalgar.
Diolch i’r Cyfarwyddwr Cerdd, Tiffany Evans, mae fersiwn gerddorol Theatr Louche yn llawn caneuon arbennig gan Leslie Bricusse ynghyd â dehongliadau hyfryd o garolau poblogaidd.
Wrth drafod y perfformiadau, dywedodd Cyfarwyddwr Theatr Louche, Harry Durnall: “Dyma fy hoff stori Dickens ac mae’n un yr wyf wedi bod eisiau ei chyflwyno gyda Theatr Louche ers tro byd. Mae cynnwys cerddoriaeth o fewn y ddrama yn ychwanegu at yr ewyllys da a’r rhialtwch a welwn o fewn y stori. Mae’r cast o dros 30 yn mwynhau’n fawr y cyfle i actio a chanu (a dawnsio weithiau!), ac mae un neu ddau wedi bod yn ysbrydoledig iawn yn eu cymeriadau!”
Bydd cyfle i weld A Christmas Carol – The Family Musical yn Morlan am 7.30 bob nos o nos Wener i nos Sul, 24-26 Tachwedd gyda pherfformiadau prynhawn ar y Sadwrn a’r Sul. Manylion pellach: www.louchetheatre.com.
Dyma’r ffordd berffaith o gychwyn ar ddathliadau’r Nadolig.