Mae Morlan wedi sefydlu Cynllun Cyfeillion er mwyn i bobl allu cefnogi Morlan yn ariannol.
Trwy dalu swm penodol yn fisol neu’n flynyddol byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at waith y ganolfan.
Bydd eich cefnogaeth yn gymorth i roi Morlan ar seiliau cadarnach ar gyfer y dyfodol ac i sicrhau y gallwn gynnal a datblygu’r weledigaeth yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Bydd hyn, yn ei dro, o fudd i chi a’r gymuned yr ydych yn byw ynddi.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen a chael gwybodaeth bellach.
DIOLCH – GWERTHFAWROGIR EICH CEFNOGAETH YN FAWR IAWN