Gwirfoddoli

Wyddoch chi fod yna sawl ffordd i chi estyn help llaw a dod yn rhan o deulu mawr Morlan?

Dyma rai enghreifftiau:

  • tacluso a chwynnu’r ardd (mae offer ar gael)
  • cadw’r tu allan yn lân ac yn daclus
  • dosbarthu posteri
  • cynorthwyo yn y Bar Coffi
  • helpu gyda gwaith gweinyddol yn y swyddfa
  • gwneud odd jobs o amgylch y lle
  • helpu paentio (fel rhan o dîm)
  • cyfrannu at Trydar a Gweplyfr Morlan.

Cysylltwch am wybodaeth bellach.