Amcanion a Datganiad Cenhadol

Er i Morlan agor ei drysau dros ddeng mlynedd yn ôl, mae gweledigaeth wreiddiol Morlan yn parhau: darparu gofod agored i bawb yn y gymuned lle y gellir rhannu gwerthoedd Cristnogol – megis heddwch a chyfiawnder – ac ymwneud â diwylliant yn ei ystyr ehangaf. Gyda hyn mewn golwg, trefnir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiadau blynyddol megis Darlith Flynyddol Morlan-Pantyfedwen a Phlygain, a digwyddiadau’n tynnu sylw at faterion penodol megis Diwrnod Cofio'r Holocost neu Wythnos Un Byd.

Amcanion Morlan yw bod yn ganolfan gymunedol a fydd yn:

  • cefnogi amcanion Capel y Morfa fel rhan o Eglwys Bresbyteraidd Cymru
  • meithrin dealltwriaeth a chyswllt rhwng yr Eglwys Gristnogol a'r gymdeithas gyfoes o'i chwmpas
  • defnyddio amrywiol weddau ar y diwylliant cyfoes i ddyfnhau dealltwriaeth a phrofiad o'r ffydd Gristnogol
  • darparu fforwm a gofod i hyrwyddo integreiddio pobl o bob oed, traddodiad a ffordd o fyw ac i'w cynorthwyo i adnabod eu gwerth a'u potensial.

Datganiad Cenhadol

Credwn fod Arglwyddiaeth Iesu Grist ar fyd a bywyd yn ein galluogi ac yn ein cymell i ymwneud â phob agwedd o fywyd ein cymdeithas, ein cenedl a'n byd. Credwn na allwn gyfyngu ei Arglwyddiaeth i eglwys na thraddodiad a'i fod Ef yn ein gwahodd i'w ddarganfod ar waith yng nghanol ein diwylliant cyfoes – yn ein hwynebu â her ei Efengyl, yn ein bendithio yn ein tystiolaeth, ac yn ein galluogi i ddefnyddio ein doniau creadigol.