Saif Morlan ar safle hen gapel Seilo a oedd yn cynnwys y capel ei hun, ysgoldy a mans (Beth-seilun). Ffrwyth gweledigaeth aelodau Capel y Morfa ydyw, ac yn adlewyrchiad o awydd yr aelodau i sefydlu canolfan bwrpasol fyddai’n estyn allan i’r gymuned a’i gwasanaethu.
Sefydlwyd Capel y Morfa yn 1989 pan unodd cynulleidfaoedd Seilo a Salem, gan benderfynu defnyddio adeiladau Salem, yn Stryd Portland, ar gyfer addoli ar y Sul.
Erbyn 1995, yr oedd adeilad Seilo wedi’i ddymchwel ond roedd yr ysgoldy yn parhau i sefyll ac yn dal i gael ei ddefnyddio gan Gapel y Morfa er bod ei gyflwr yn dirywio. Yr oedd yr awydd i sefydlu canolfan bwrpasol yn parhau hefyd – canolfan fyddai’n gweithredu fel pont rhwng yr eglwys a chymunedau Aberystwyth a thu hwnt gan roi sylw arbennig i berthynas ffydd a diwylliant a hynny yn yr ystyr ehangaf.
Ar ôl rhyw ddeng mlynedd o waith caled i sicrhau cyllid digonol a’r caniatâd cynllunio angenrheidiol, agorodd Morlan ym mis Ebrill 2005.
Roedd yr ysgoldy wedi’i adnewyddu a’i gysylltu â Beth-seilun i greu’r ganolfan fodern, aml-bwrpas a welir heddiw. Mae’r ysgoldy ei hun bellach yn neuadd fawr ag adnoddau ar gyfer perfformiadau cerddorol a theatrig ac Ystafell Werdd sydd hefyd yn gweithredu fel ystafell bwyllgor. Ceir ail ystafell bwyllgor (Ystafell Dawel), swyddfa a Bar Coffi ar lawr gwaelod Beth-Seilun, a datblygwyd rhan o’r estyniad newydd yn oriel gelf.
Erys Morlan yn rhan greiddiol o genhadaeth a thystiolaeth Capel y Morfa (sydd ei hun yn rhan o Eglwys Bresbyteraidd Cymru).
Ceir mwy o hanes Morlan yn y dogfennau isod: