Mae yna sawl ffordd o gefnogi a chynorthwyo Morlan.
1. Ymaelodi â phwyllgor
Y Pwyllgor Rhaglen sy’n gyfrifol am y digwyddiadau a drefnir yn benodol gan Morlan; mae aelodau’r Pwyllgor yn trefnu rhai digwyddiadau eu hunain ac yn cydlynu gwaith yr Is-bwyllgorau:
- Cwmni Morlan: cwmni drama sy’n perfformio o leiaf un cyflwyniad y flwyddyn. Mae’r Cwmni bob amser yn chwilio am aelodau newydd – i fod ar y llwyfan, neu’r tu cefn i’r llwyfan.
- Is-bwyllgor Addysg: yn gyfrifol am drefnu a chynnal gweithgareddau ar gyfer y sectorau addysg cynradd ac uwchradd.
- Is-bwyllgor Ffydd a Materion Crefyddol: yn gyfrifol am drefnu a chynnal gweithgareddau sy’n ymwneud yn benodol â materion ffydd a materion crefyddol.
- Is-bwyllgor Llenyddol: yn gyfrifol am drefnu a chynnal gweithgareddau amrywiol ym maes llenyddiaeth.
- Is-bwyllgor y Ddarlith Flynyddol: yn gyfrifol am bob agwedd ar drefnu a chynnal y Ddarlith Flynyddol a drefnir ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Pantyfedwen.
Rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd i’r grwpiau hyn. Cymraeg yw iaith y cyfarfodydd a byddem yn falch iawn o groesawu dysgwyr i’n plith.
2. Gwirfoddoli
Gallwch wirfoddoli ym mhob math o ffyrdd gwahanol yn Morlan. Cliciwch yma am rai enghreifftiau.
3. Cefnogi’n ariannol
Gallwch gefnogi’r ganolfan yn ariannol trwy ddod yn Gyfaill Morlan. Cliciwch yma am wybodaeth bellach.