Llogi Morlan

Mae gan Morlan ystafelloedd i’w llogi sy’n addas ar gyfer amryw o weithgareddau – o gyfweliadau bach i bwyllgorau mawr, o gyngherddau a dramâu i ffeiriau crefftau a nosweithiau cymdeithasol, ynghyd â chynadleddau, cyfarfodydd cyhoeddus, cyrsiau hyfforddi, gwleddoedd priodas a phob math o ddigwyddiadau eraill.

Gellir llogi ystafell am gyn lleied ag awr – bore, prynhawn neu nos – ar delerau cystadleuol. Ceir telerau gostyngol i grwpiau elusennol a chrefyddol, ac ar gyfer digwyddiadau sy’n cyd-fynd ag amcanion Morlan. Mae’r telerau hefyd yn gostwng wrth i’r cyfnod llogi gynyddu (cysylltwch am fanylion y cyfraddau llogi).

Gwnawn ein gorau i addasu pob ystafell i gyd-fynd â’ch anghenion chi, ac i ddarparu amgylchedd croesawgar, cyfeillgar.

Rhaid i bob llogwr gydsynio â Thelerau ac Amodau Llogi Morlan.

Adnoddau Eraill

  • Maes parcio ar gyfer 12 o geir (+ un lle parcio i'r anabl). Ni ellir gwarantu llefydd gwag.
  • Toiled i’r anabl a mynediad i’r anabl i bob rhan o’r adeilad.
  • Man newid clytiau.
  • Dolen anwythiad (yn y neuadd).
  • Offer i’w llogi (rhaid eu harchebu o flaen llaw): system sain (neuadd yn unig), taflunydd digidol, siart troi, chwaraewr CD.
  • Wi-fi cyhoeddus rhad ac am ddim yn yr Ystafell Dawel ac ardal y Bar Coffi.
  • Mae gan Morlan drwydded i chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio.
  • Gellir darparu llungopïau (lliw neu ddu a gwyn) am bris rhesymol.