About this event:
Created by Rheolwr Morlan
Cyfres o waith gan yr artist lleol Trevor George Sewell sy’n cynnwys paentiadau haniaethaol a thirluniau. Lluniadau oedd man cychwyn yr holl ddarnau – lluniwyd y rhai haniaethol ar siwrneiau bws a’r tirluniau yn yr awyr agored. Datblygwyd y paentiadau wedyn o astudiaethau lliw mewn cyfuniad â’r lluniadau i greu’r arddangosfa drawiadol hon.
Mae’r gwaith i gyd ar werth a gellir talu’n fisol am y gwaith trwy Gynllun Prynu Morlan.
Oriau agor swyddogol pob arddangosfa: Llun i Gwener, 10.00-12.00 & 2.00-4.00.