Rhwng 13 Ionawr a 20 Chwefror 2017, yr oedd cyfle i weld arddangosfa yn Morlan o waith gan Grŵp Celf Mind Aberystwyth.
Elusen iechyd meddwl yw Mind Aberystwyth a leolir yn Y Felin, Dan Dre, Aberystwyth. Wedi’i sefydlu yn 2005, mae’n un o 146 o grwpiau lleol sy’n gysylltiedig â Mind UK, ond fe’i rhedir fel mudiad lleol gan bobl leol i bobl leol. Mae’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl a effeithir gan problemau iechyd meddwl, gan gynnwys eu teuluoedd, eu cyfeillion a’u cefnogwyr.
Roedd yr arddangosfa’n cynnwys nifer o ddarnau mewn sawl cyfrwng a grëwyd gan 11 aelod o’r Grŵp sy’n cyfarfod ar foreau Mawrth rhwng 10.00 a 12.00 dan ofal Kate Saunders, Cydlynydd Iechyd Meddwl gyda Mind Aberystwyth. Y nôd yw rhoi cefnogaeth i bobl sydd naill ai’n dymuno sicrhau bod eu hiechyd meddwl ar lefel foddhaol, neu sy’n cael budd o’r awyrgylch cefnogol, creadigol sy’n bodoli o fewn y Grŵp.
Mae ymchwil wedi dangos bod gweithgareddau creadigol megis paentio, cerflunio a lluniadu o fudd i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Maent yn weithgareddau sy’n rhoi boddhad, yn tawelu’r meddwl ac yn lleihau lefelau straen. Gall greu celf dynnu sylw rhywun i ffwrdd o broblemau, ac mae’n gymorth i fynegi teimladau pan fo geiriau’n rhy anodd.
Dywedodd Kate Saunders, arweinydd y grŵp: “Rydym yn grŵp cynhwysol o bob oed, cefndir a gallu artistig. Yn ystod y sesiynau y nôd yw ceisio cefnogi aelodau i ddatblygu eu syniadau a’u sgiliau artistig eu hunain. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol ac yn ymweld ag arddangosfeydd lleol.”
Am fanylion pellach am waith Mind Aberystwyth, cysylltwch:
Ffon: 01970 626225
Ebost: info@mindaberystwyth.org
Gwefan: mindaberystwyth.org
Trydar: @aberystwythmind
Gweplyfr: www.facebook.com/MINDAberystwyth