ARDDANGOSFA SY’N YMWNEUD Â GWRTHWYNEBIAD I RYFEL A CHWESTIYNU CYDWYBOD

Yn ystod mis Ionawr, bydd cyfle i weld yr arddangosfa Cred a Gweithred yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth.

Yn rhan o’r prosiect Cymru dros Heddwch, mae’r arddangosfa’n archwilio’r rhesymau pam y dewisodd rhai gwrthwynebwyr cydwybodol y llwybr anodd o wrthsefyll gorfodaeth filwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n ystyried rhai o’r problemau y bu iddynt eu hwynebu, yn arbennig pan fo cannoedd ar filoedd o ddynion yn credu mai dyma oedd eu dyletswydd, gan aberthu eu bywydau i frwydro dros eu gwlad. Beth sy’n ysgogi unigolyn i wneud safiad pan nad yw’n credu fod ei gydwybod yn gadael iddo ddilyn llwybr penodol?

Mae’r arddangosfa hefyd yn ymchwilio etifeddiaeth y gweithrediadau hynny. Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, ym mha fodd mae pobl yng Nghymru wedi dilyn eu credoau â gweithredu wrth chwilio am heddwch?

Mae Morlan wedi gwahodd yr arddangosfa i’r ganolfan fel rhan o’i Rhagen Gweithgareddau. Dywedodd Carol Jenkins, Rheolwr y Ganolfan: “Fel canolfan ffydd a diwylliant, mae Morlan yn trefnu amryw o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â phethau megis ffydd, materion cymdeithasol, hawliau dynol, ac ati. Rydym wedi trefnu sawl digwyddiad – rhai trwy gydweithio â grwpiau eraill – i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gan ganolbwyntio’n arbennig ar wrthwynebwyr cydwybodol a materion heddwch. Mae’r rhain wedi amrywio o noson hynod deimladwy gyda Theatr Louche a Chôr Gobaith i arddangosfa gelf gan Gymdeithas Celf Ceredigion. Mae’n braf felly gallu cydweithio gyda Cymru dros Heddwch ar y digwyddiad hwn.”

Cynlluniwyd yr arddangosfa i fod yn hyblyg ac yn rhwydd i’w symud, fel ei bod yn gallu ymweld â chynifer o gymunedau ac sy’n bosib ar draws Cymru – mae hi eisoes wedi cael ei harddangos ym Mhontypridd, Caerdydd, Llanbed a Chaerfyrddin, ac wedi cael ymateb da. Mae yna stôr o adnoddau digidol ac adnoddau ar gyfer ysgolion ar gael i gefnogi’r arddangosfa, gan gynnwys Cofrestr Pearce o wrthwynebwyr cydwybodol: bas data diddorol iawn sy’n dangos cofnodion tua 860 o Gymry aeth a’i hachos am eithriad o orfodaeth filwrol i’r tribiwnlys milwrol. Daw’r arian i gynnal y prosiect drwy raglen Cymru’n Cofio 1914 -1918 Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen goffa yn darparu cyfle i ystyried achosion y Rhyfel Byd Cyntaf a’u heffaith drawsffurfiol ar fywyd a chymdeithas Cymru.

Ychwanegodd Carol Jenkins: “Mae Morlan hefyd wedi trefnu digwyddiad – Geiriau’n Gweithredu / Words in Action – i gyd-fynd â’r arddangosfa. Yn y digwyddiad, sydd yn parhau â thema’r arddangosfa, bydd panel o bobl yn rhannu eu profiadau o weithredu dros heddwch. Noson ddwyieithog (gydag offer cyfieithu ar gael) fydd yn gyfuniad o fideo a sgwrs, fydd hon, yn rhoi cyfle i’r cyfranwyr esbonio pam eu bod wedi dewis gweithredu, pa anawsterau y bu’n rhaid iddynt eu hwynebu, a sut y gorchfygwyd yr anawsterau hynny. Fe’i cynhelir am 7.30, dydd Llun, 22 Ionawr. Bydd mynediad am ddim ac mae yna groeso cynnes i bawb.”

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn neuadd Morlan o 5 i 25 Ionawr. Bydd ar agor ddyddiau Mercher i Gwener 10.00-12.00 a 2.00-4.00 a dyddiau Sadwrn 10.00-1.00. Mynediad am ddim.

Gwybodaeth pellach

Os hoffech wybod mwy, ein helpu i ychwanegu stori i’n casgliad digidol, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal yr arddangosfa yn eich cymuned, cysylltwch â Ffion Fielding, Cydlynydd Arddangosfeydd ac Ymgysylltu, ffionfielding@wcia.org.uk, 029-2082-1051.

Gadael Ymateb