Dros y penwythnos 16-18 Mehefin 2017, blwyddyn wedi marwolaeth yr aelod seneddol Jo Cox, daeth cymunedau ar draws y DU at ei gilydd i gofio, i ddathlu ac i hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn digwyddiadau o dan ymbarél y Great Get Together, a drefnwyd gyda chefnogaeth teulu, ffrindiau a chydweithwyr Jo Cox. Cafwyd cyfle yn Aberystwyth i wneud yr un peth hefyd.
Cychwyn y broses oedd i Morlan a Chymru i Bawb ddod ynghyd a phenderfynu trefnu fersiwn dwyieithog o’r digwyddiad: Dewch at Eich Gilydd – The Great Get Together. Gwahoddwyd nifer o fudiadau lleol – cyfeillion Morlan sy’n rhannu gweledigaeth debyg – i fod yn rhan o Bwyllgor Trefnu. Daeth criw go lew at ei gilydd, pob un gyda brwdfrydedd ac awydd, a phenderfynu mentro i gynnal diwrnod o weithgareddau amrywiol ar 17 Mehefin. Gweithiodd pob dim yn iawn a chafwyd diwrnod braf gyda’r haul yn gwenu arnom ac Aberystwyth a’i thrigolion ar eu gorau.
Dechreuwyd y diwrnod gyda Chôr Gobaith yn canu mewn sawl lleoliad ar draws y dref – cyfle i hyrwyddo’r digwyddiadau ac i atgoffa pawb o neges y diwrnod sef bod mwy yn ein huno nag sydd yn ein rhannu.
Cafwyd pryd o fwyd wedyn yng Nghanolfan Fethodistaidd St Paul – y prif gwrs wedi ei ddarparu gan Fwyd Dros Ben Aber a phobl yn dod â phwdin i’w rannu. Daeth rhyw 100 o bobl ynghyd i rannu pryd bwyd blasus mewn awyrgylch arbennig.
Symudwyd draw i’r Hen Goleg ar gyfer gweithgareddau’r prynhawn. Yn y Cwad gofynnwyd i blant dynnu llun o rywbeth yr oeddynt yn ei fwynhau ac ateb tri chwestiwn syml. Y nod oedd dangos taw plant yw plant beth bynnag eu cefndir a’u profiadau – mae ganddynt hwythau hefyd ‘mwy yn gyffredin’, chwedl Jo Cox.
Tra bod y plant yn mwynhau eu gweithgaredd nhw, roedd criw o oedolion yn mwynhau sesiwn hwyliog, cymdeithasol TrioLingo, cyfle i ddysgu geiriau a brawddegau syml mewn rhai o’r ieithoedd a siaredir yn y dref. Daeth rhyw 45 o oedolion ynghyd i rannu 16 o ieithoedd, a braf oedd gweld y ffoaduriaid o Syria sydd bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth yn sylweddoli nad hwy yw’r unig leiafrif yn y cylch.
Cafwyd hanner awr o gofio distaw mewn gwahanol fannau wedyn. Roedd negeseuon pwerus yr amryw blacardiau yn atgyfnerthu’r negeseuon oedd i’w gweld ar faneri o amgylch y dref a’r gingham coch – ar y placardiau a’r baneri, ar daflenni a phosteri, fel rhuban ar ddillad unigolion, ac ar bynting mewn ambell i siop – yn uno’r cyfan, yn symbol pwerus o’n hawydd i fyw mewn cymuned ble mae pawb yn cael eu derbyn, a phob unigolyn yn cael ei drin â pharch, beth bynnag ei hil, iaith, diwylliant, crefydd, rhyw, rhywioldeb neu allu.
Daeth y diwrnod i ben gyda chyngerdd yn Morlan – amrywiaeth o grwpiau, ieithoedd a dulliau cerddorol a phawb yn dal dwylo a chanu cytgan enwog Edward H. Dafis – diweddglo arbennig i ddiwrnod i’w gofio. Roedd Eurig Salisbury wedi addasu geiriau’r penillion ac maent yn crynhoi i’r dim neges y diwrnod.
Os yw tywyllwch nos yn aros yn dy eiriau,
Os yw dy ffrwd yn tagu heno dan lid,
Cofia nad yw’r gell ar gau ond yn dy feddwl,
Ac nad oes clo ar ddrws sy’n agor i’r byd.
Saf ar dy draed a galwa’r gwir yn wir heb aros
Galwa bob celwydd noeth yn gelwydd o’r bron,
A chwyd dy lais i ganu’r gwir fod ein holl gariad
Yn drech na’r drwg ar hyd y ddaear fawr hon.