RHANNU PRYD A CHREU CYSYLLTIAD – MENTER NEWYDD YN MORLAN

Un o amcanion sylfaenol Canolfan Morlan yn Aberystwyth ydi bod yn lle sy’n estyn allan i wahanol garfanau yn y gymdeithas (canolfan ffydd a diwylliant ydi’r diffiniad ohoni) ac, yn ystod mis Mehefin, cafwyd dwy fenter newydd sbon oedd yn galondid ac yn hwyl i’r trefnwyr. Ceir sôn am y Dewch at Eich Gilydd, a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, mewn erthygl ar wahân.

Bron pythefnos yn ddiweddarach (ar 29 Mehefin), cafwyd noson yr oedd Is-bwyllgor Ffydd a Materion Crefydd Morlan wedi ei threfnu – noson am berthynas bwyd a ffydd. Eto yr oedd mudiad Bwyd Dros Ben Aber wedi hel bwyd o’r archfarchnadoedd lleol a darparu pryd o fwyd dau-gwrs ardderchog, gyda Catrin Griffiths o Gapel y Morfa yn paratoi dewis o bwdins bendigedig. Rhwng pob cwrs, cafwyd tair sgwrs fer ar wahanol agweddau o arwyddocâd bwyd i ni i gyd – yn Gristnogion, yn Fwslemiaid ac yn bobl fwy seciwlar eu hagweddau. Wrth fwynhau’r cyrsiau gwahanol wedyn yr oedd cyfle i drafod ymhellach testun pob sgwrs.

Soniodd Enid Morgan sy’n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru am Iddewiaeth a Christnogaeth a’r ffordd y mae cofio swper arbennig wrth galon ein haddoli Cristnogol ac yn ddarlun o gymuned lle mae pobl yn ymddiried yn ei gilydd ac yn Nuw.

Paul Allen, o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth ac un o awduron Zero Carbon Britain a siaradodd o safbwynt mwy seciwlar gan ddisgrifio sut mae stori’r ‘defnyddiwr’ – sef y syniad bod prynu pethau yn ein gwneud yn hapusach – wedi cyfrannu at newid yn ein cymdeithas ac at newid hinsawdd. Mae lliaws o bobl o wahanol argyhoeddiadau sy’n rhoi pwyslais ar yr angen i’r ddynoliaeth yn gyffredinol weithredu i arafu newid yn yr hinsawdd. Pwysleisiodd fod posibilrwydd real iawn o wneud gwahaniaeth trwy ein ffordd o fyw, trwy ddileu’r gwastraff bwyd sydd wedi ei gynnwys yn rhan o drefn marchnata heddiw, ac i feddwl o ddifri am wastraff egni ac effaith enbyd tanwydd carbon.

Y Mwslim a siaradodd oedd Talat Chaudhri, Dirprwy Faer Aberystwyth, sydd o dras Seisnig a Bengali a fagwyd yn Essex, ond sydd wedi byw yn Aberystwyth ers 19 mlynedd ac sy’n siarad Cymraeg rhugl a naturiol. Soniodd ef am arwyddocâd bwyd fel elfen sy’n clymu cymdeithas at ei gilydd, ac eglurodd yn hyfryd sut y mae ympryd Ramadan yn troi ar gynilo arian i’w rhoddi i’r anghenus, a’r ffordd y mae dod ynghyd i fwyta ar ôl iddi nosi yn creu cyd-berthynas agos ymhlith Mwslemiaid.

Yr oedd y cyd-wrando, y cyfle i gwrdd â phobl y tu hwnt i’n cylchoedd cyffredin, mwynhad o’r bwyd a’r ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr achlysur yn galondid ac yn wers i bawb oedd yno. Ymunwch â ni’r tro nesaf!

 

Enid Morgan

Gadael Ymateb