Nod Wythnos Un Byd yw annog pobl i ddod ynghyd i weithio tuag at byd heddychlon a chynaliadwy. Unwaith eto, fe unodd Morlan gyda Mind Aberystwyth i drefnu Ffair Amlddiwylliannol er mwyn dathlu’r amrywiaeth sy’n bodoli yn ein cymuned.
Mae Morlan wedi nodi Wythnos Un Byd mewn sawl ffordd wahanol ers agor y ganolfan yn 2015 ond mae’r Ffair Amlddiwylliannol yn un o’r digwyddiadau mwyaf llwyddiannus, yn arbennig felly oherwydd y cyfle i feithrin perthynas gyda’r grŵp Mind lleol.
Cynhaliwyd y Ffair eleni ar ddydd Sadwrn, 21 Hydref. Am dâl mynediad o £3, roedd modd dewis rhwng powlenaid o gawl Cymraeg neu bowlenaid o fwyd Indiaidd. Yn ogystal â chyflwyno pobl i rai agweddau o ddiwylliant Cymru, cafwyd cerddoriaeth, dawns a chân o India, Tseina, Corea a Llydaw, a chyfle hefyd i brofi gweithgareddau amrywiol megis origami, ysgrifen Tseineaidd, gwisgo sari a phaentio henna ar y dwylo. Er taw prif nod y digwyddiad oedd dathlu Wythnos Un Byd a hyrwyddo amrywiaeth, yr oedd cyfle hefyd i ddarganfod mwy am y gwaith y mae Mind Aberystwyth yn ei wneud.
Dywedodd Dylan Lewis, Is-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Mind Aberystwyth: “Mae Mind Aberystwyth yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau i bobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch meddwl a’u teuluoedd. Mae hyrwyddo cynhwysiad a meithrin goddefgarwch yn bwysig i’n gwaith. Ni ellir gwadu bod disgrimineiddio a rhagfarn yn bodoli yn ein cymdeithas ond gobeithiwn bod cynnal gweithgareddau fel hyn yn un cam bach tuag at eu gwaredu.”
Dywedodd Carol Jenkins, Rheolwr Morlan: “Thema Wythnos Un Byd eleni oedd ‘Cymdogion Da’ a pha gwell ffordd o feithrin cymdogion da na thrwy gymdeithasu, cyd-fwyta a rhannu diwylliant. Er gwaetha’r tywydd garw daeth criw da ynghyd i fwynhau’r gweithgareddau ac, i goroni’r cyfan, codwyd bron £350 i Mind Aberystwyth.”